Job 110 van 375

APPLY



Goruchwylydd Blaendraeth Llyn Tegid/lyn Tegid Foreshore Supervisor


Goruchwylydd Blaendraeth Llyn Tegid Bala, Parc Cenedlaethol Eryri Amdanom ni Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru, sef Llyn Tegid. Rydym nawr yn chwilio am Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol i ymuno â ni ar sail amser llawn ar gyfer contract tymor penodol hyd at 30 Medi 2024. Y Manteision - Cyfradd yr awr o £12.20 - £12.82 yr awr - Pensiwn - Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata) - Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth) - Cynllun beicio i'r gwaith - Cynllun Cymorth Prynu Car - Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol Y Rôl Fel Goruchwylydd Blaendraeth Tymhorol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod adeilad blaendraeth Llyn Tegid, y maes parcio a’r ardal gyfagos yn rhedeg yn esmwyth. Yn bedair milltir o hyd a thri chwarter milltir o led, Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Wedi’i reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel adnodd hamdden, rydym yn gwarchod y llyn a’i fioamrywiaeth unigryw. Daw'r safle'n hynod o brysur yn ystod anterth y prif dymor gwyliau ac mae angen ei reoli'n effeithiol i osgoi tagfeydd, problemau posibl rhwng ymwelwyr ac amhariad ar wasanaethau. Gan hyrwyddo defnydd cyfrifol o Lyn Tegid a’r ardal leol, byddwch yn darparu cyngor a chymorth diogelwch a chyfeiriadedd sylfaenol i’r cyhoedd ac ymwelwyr, gan sicrhau’r safonau uchaf o ofal cwsmer. Byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli’r safle o ddydd i ddydd, gan oruchwylio’r holl weithgareddau parcio ceir gan gynnwys rheoli traffig, trin arian parod, a gorfodi taliadau parcio ceir. Yn ogystal, byddwch yn: - Delio ag ymholiadau a chwynion - Cymryd rhan mewn archwiliadau cyfnodol o ganfyddiad / barn cwsmeriaid - Sicrhau bod y safle yn cael ei gadw i safon uchel o lanweithdra - Hyrwyddo cadw at y Cod Cefn Gwlad a chodau ymddygiad lleol Amdanoch chi I gael eich ystyried yn Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, bydd angen: - Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg - Profiad o reoli pobl a/neu ofal cwsmeriaid - Profiad o ymdrin ag arian, yn gyfrifol ac yn gywir - Ymwybyddiaeth o faterion diogelwch dŵr - Sgiliau cyfathrebu da - Gwybodaeth leol dda - Trwydded yrru lawn, ddilys Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Oruchwyliwr Twristiaeth, Goruchwyliwr Canolfan Ymwelwyr, Arweinydd Tîm Canolfan Hamdden, Goruchwylydd Canolfan Weithgareddau, neu Arweinydd Tîm Chwaraeon Dŵr. Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 30 Ebrill 2024. Os ydych chi am ymuno â ni yn y rôl wobrwyol hon fel Goruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth. Llyn Tegid Foreshore Supervisor Bala, Snowdonia National Park About Us Snowdonia National Park Authority protects the natural beauty, wildlife and cultural heritage of Eryri National Park. Covering 823 miles of diverse landscape, the Park is home to over 26,000 people, the highest mountain in Wales and the largest natural lake in Wales, Llyn Tegid. We are now looking for a Seasonal Foreshore Supervisor to join us on a full-time basis for a seasonal fixed term contract until 30th September 2024. The Benefits - Hourly rate of £12.20 - £12.82 per hour - Pension - Holiday Allowance of 24 days (pro rata) - St David’s Day off (1st of March) - Cycle to work scheme - Car Buying Assistance Scheme - The chance to work in an area of outstanding natural beauty The Role As a Seasonal Foreshore Supervisor, you will be responsible for ensuring the smooth running of the Llyn Tegid foreshore building, car park and adjacent area. At four miles long and three quarters of a mile wide, Llyn Tegid is Wales’s largest natural lake. Managed by the Snowdonia National Park Authority as a recreational resource, we protect the lake and its unique biodiversity. The site becomes extremely busy during the heights of the main holiday season and needs effective management to avoid congestion, potential issues between visitors and disruption to services. Promoting the responsible use of Llyn Tegid and the local area, you’ll provide basic safety and orientation advice and assistance to the public and visitors, ensuring the highest standards of customer care. You’ll assist with the day-to-day management of the site, overseeing all car parking activities including traffic management, handling cash, and enforcing car parking charges. Additionally, you will: - Deal with enquiries and complaints - Participate in periodic customer perception / views audits - Ensure the site is kept to a high standard of cleanliness - Promote the observance of the Countryside Code and local codes of conduct About You To be considered as a Seasonal Foreshore Supervisor, you will need: - Fluency in Welsh and English - Experience of people management and/or customer care - Experience of dealing with money, responsibly and accurately - An awareness of water safety issues - Good communication skills - Good local knowledge - A full, valid driving licence Other organisations may call this role Tourism Supervisor, Visitor Centre Supervisor, Leisure Centre Team Leader, Activity Centre Supervisor, or Watersports Team Lead. The closing date for this role is the 30th April 2024. If you want to join us in this rewarding role as a Seasonal Foreshore Supervisor, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency

APPLY

More jobs of your search